Nid yw’n gyfrinach, wrth i ni heneiddio, y gall ein gallu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol leihau. Gall newid mewn clyw fod yn ffactor cyfrannol. Mae effaith colli clyw yn aml yn cael ei danbrisio. Pan fydd colled clyw yn digwydd, gall rhai pobl dynnu'n ôl o sgyrsiau bob dydd, gan arwain at y posibilrwydd o ynysu. Mae angen ysgogiad ar ein hymennydd er mwyn siarad ag eraill. Mae arbenigwyr yn dangos y gall fod cysylltiad rhwng colli clyw a dementia. Awgryma ymchwil, trwy reoli colled clyw gyda chymhorthion clyw, y gellir lleihau'r risg o ddementia.

Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw golled clyw, mae’n bwysig eich bod chi’n cael prawf clyw a chlustiau cyn gynted â phosibl, neu os oes gennych chi gymhorthion clyw yn barod, sicrhewch eu bod nhw’n gweithio ac yn cael eu defnyddio’n rheolaidd.

Ein bwriad yw codi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai a allai fod yn profi colled clyw ac rydym yn eich cynghori i gysylltu â’ch practis meddyg teulu i drefnu apwyntiad gydag awdiolegydd y GIG ar gyfer asesiad clyw.

Meddai Cyfarwyddwr CADR, Dr Andrea Tales:

“Mae’r animeiddiad a gynhyrchwyd ar y cyd hwn wedi’i seilio ar dystiolaeth ymchwil ac wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mynd i’r afael â cholled clyw gan alluogi pobl i wneud dewisiadau cadarnhaol. Mae codi ymwybyddiaeth yn galluogi pobl i siarad yn fwy rhydd am y materion ac i hysbysu pobl ei bod yn iawn cysylltu â’u meddyg teulu a’u awdiolegydd i siarad amdanyn nhw.”

Jane Wild, Cadeirydd Grŵp Penaethiaid Gwasanaeth Awdioleg Cymru

“Mae hwn yn animeiddiad pwysig sy’n codi ymwybyddiaeth o’r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia a gwerth ceisio cymorth a defnyddio cymhorthion clyw. Rydym yn falch o weld yr animeiddiad hwn yn cael ei lansio.”

Meddai Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Heb ymchwil, ni fyddem yn gwybod pa mor gryf yw’r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia. Mae ymchwil yn darparu cyfleoedd hanfodol i ystyried iechyd a llesiant yn gyffredinol a gwneud cysylltiadau rhwng materion sy’n ymddangos yn wahanol, gan arwain at ddealltwriaeth ddyfnach a gwell canlyniadau.”

Mae CADR (y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia) wedi gweithio ar y cyd â Sefydliad Awen a GIG Cymru i greu animeiddiad sy’n hyrwyddo’r neges gyhoeddus hon. Mae'r animeiddiad hwn i'w weld yma: https://www.cadr.cymru/cy/news-info.htm?id=329

Gwybodaeth Bellach

Dolenni i animeiddiadau ar YouTube:

Cymraeg https://youtu.be/aISwwqNhlmA

Mae CADR yn gydweithrediad rhwng Prifysgolion Abertawe, Bangor ac Aberystwyth. Fe’i cefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ei bwriad yw gwella bywydau pobl hŷn trwy ymchwil, polisi ac ymarfer.

Mae Sefydliad Awen yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw ynghyd â phobl hŷn a’r diwydiannau creadigol i gydgynhyrchu cynhyrchion, gwasanaethau ac amgylcheddau ar gyfer poblogaeth hŷn sydd ar gynnydd. Caiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, ac mae’r sefydliad yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Manylion Cyswllt.

Am unrhyw wybodaeth arall, cysylltwch â Kim Mepham, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, CADR.

[email protected]

01792 205678 est. 7768